Felly, beth rydyn ni eisiau gan yr unig siop bentre sydd gyda ni? Rhywle i brynu’ch papur newydd, y nwyddau hanfodol ’na rydych wedi eu hanghofio – llaeth, bara, cwrw a phapur tŷ bach.
Rhywle i eistedd a mwynhau paned gyda ffrindiau a chlywed y clecs diweddara am beth sy’n digwydd yn y fro? Brecwast mawr o’r ffreipan ar fore Sul?
Rydyn ni wedi gofyn i bobl leol beth maen nhw eisiau gan y Cletwr – ac mae canlyniadau’r arolwg i’w gweld fan hyn.
Beth rydyn ni’n gwybod i sicrwydd yw fydd yr holl brosiect ddim yn bosibl heb fewnbwn y fasnach sy’n dod i mewn o’r ffordd fawr. Felly yn ogystal â meddwl am beth rydyn ni y bobl leol eisiau ei weld, rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn gwneud digon i ddenu gyrwyr sy’n mynd heibio, gan mai eu harian hwythau fydd yn helpu i ddwyn y maen i’r wal.
Darllenwch fwy ar ein paneli arddangos
Mae’r tîm wedi paratoi
tri phanel arddangos sy’n crynhoi’r hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud.
Rhowch click i ddarllen ragor o ddogennau >>